Ysgol Y Felin - Estyn
Primary - Carmarthenshire County Council

Ysgol Y Felin

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Datblygu medrau arwain disgyblion drwy waith y cynghorau ysgol

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae staff yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymgymryd â rolau arwain ac i ddatblygu medrau sy’n cael effaith fuddiol ar fywyd a gwaith yr ysgol. Mae’r ystod o gynghorau amrywiol yn casglu barn eu cyfoedion ac yn arwain ar brosiectau cyffrous sy’n cyfrannu’n gadarnhaol ar ethos a diwylliant yr ysgol. Er enghraifft, mae’r Criw Cymraeg wedi arwain nifer o weithgareddau Cymraeg, gan cynnwys dewis caneuon yr wythnos, cynllunio a darparu gemau buarth a threfnu disgo tawel ar gyfer eu cyfoedion. O ganlyniad, mae gan ddisgyblion ar draws yr ysgol ddealltwriaeth dda o ddiwylliant cyfoes Cymraeg ac maent yn elwa o gyfleoedd gwerthfawr i ddefnyddio eu medrau llafar Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Details

Address

Ynyswen
Felinfoel
Llanelli
SA14 8BE