Ysgol Gymraeg Rhydaman - Estyn
Primary - Carmarthenshire County Council

Ysgol Gymraeg Rhydaman

Estyn logo on a blue background

Spotlights

1 of 2

Spotlights

Ciplun - Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y disgyblion o hanes yr ardal leol

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 wedi bod yn astudio hen fapiau o’r ardal leol, er mwyn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae tref Rhydaman wedi newid dros y canrifoedd.Datblygodd y disgyblion eu medrau darllen map yn fedrus trwy gaffael gwybodaeth o allweddi a graddfeydd mapiau o wahanol gyfnodau mewn hanes. O fewn eu grwpiau dysgu, aethant ati i edrych ar newidiadau yn y defnydd o dir dros y canrifoedd gan drafod y rhesymau posib am hyn. Datblygodd y disgyblion eu medrau meddwl yn gelfydd wrth iddynt ystyried newidiadau mewn poblogaeth y dref dros yr oesau a’r angen am fwy o gartrefi, siopau a chyfleusterau o fewn yr ardal. Gwnaeth y disgyblion cysylltiadau dysgu pellach drwy edrych ar sut mae crefydd wedi newid dros yr hanner ganrif ddiwethaf a sut mae addoldai'r ardal yn cael eu hail defnyddio gan y gymuned heddiw. Yn dilyn hyn, cydweithiodd y disgyblion i ddatblygu eu medrau ysgrifennu drwy greu ffeil o ffeithiau i grynhoi’r wybodaeth i eraill.

Details

Address

Ysgol Gymraeg Rhydaman
Lon Yr Ysgol
Rhydaman
SirGaerfyrddin
SA18 2NS