Carway C.P. School - Estyn
Primary - Carmarthenshire County Council

Carway C.P. School

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Ysgogi’r disgyblion ieuengaf gyda gweithgareddau dysgu annibynnol

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae athrawon yn cydweithio’n effeithiol ar draws y ffederasiwn er mwyn cyd-gynllunio gweithgareddau ysgogol ar gyfer disgyblion ieuengaf yr ysgol. Maent yn defnyddio sbardun sy’n cyffroi’r disgyblion, fel helynt y Dyn Bach Sinsir. Gwneir defnydd hynod effeithiol o ardaloedd gwahanol y dosbarth, gydag ystod eang o gyfleoedd buddiol i ddisgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol. Er enghraifft, mae cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ysgrifennu’n rhydd, gydag ychydig o’r disgyblion mwyaf hyderus yn dechrau ysgrifennu darnau estynedig yn y ‘llyfr sgribl’. Maent yn gwneud dewisiadau ynghylch eu dysgu, gan benderfynu pa weithgareddau i flaenoriaethu a dewis gweithio’n unigol neu gyda chyfeillion. Mae disgyblion yn ymgolli’n llwyr yn y gweithgareddau ac yn dyfalbarhau am gyfnodau estynedig. O ganlyniad, mae disgyblion ieuengaf yr ysgol yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol yn effeithiol.

Details

Address

Carway
Kidwelly
Carmarthenshire
SA17 4HE