Ysgol Pen-y-bryn - Estyn
Primary - Gwynedd Council

Ysgol Pen-y-bryn

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Datblygu medrau, hyder a dyheadau disgyblion drwy brosiect mentergarwch

Mae athrawon yn cynllunio ystod o weithgareddau buddiol a chyfoethog i gefnogi disgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd ariannol, ynghyd â medrau ehangach, fel llythrennedd a digidol. Maent yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gydweithio yn fentrus ac i ddatblygu menter eu hunain yn ystod y flwyddyn gan ddatblygu ymwybyddiaeth o hanfodion cynnal busnes, er enghraifft elw a cholled. Drwy gydol y flwyddyn, mae disgyblion yn trafod sut i wella eu menter ymhellach, datblygu eu cynnyrch a chreu ymgyrch farchnata effeithiol. Maent yn gwneud eu gorau i gynyddu'r elw drwy gylch o fuddsoddi parhaus, gwella ac ail-fuddsoddi yr elw. Maent yn gwahodd busnesau lleol i'r ysgol er mwyn gosod cyd-destun lleol, go-iawn iddynt wrth ddatblygu eu syniadau ymhellach. O ganlyniad, mae disgyblion yn cymhwyso eu medrau yn llwyddiannus ac yn datblygu ymwybyddiaeth gadarn o'r economi leol a sut mae'n bosibl byw, gweithio a llwyddo yn y eu cymuned leol.

Details

Address

Bethesda
Gwynedd
Gwynedd
LL57 3BE