Ysgol Gymuned y Fali - Estyn
Primary - Isle of Anglesey County Council

Ysgol Gymuned y Fali

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Cwricwlwm perthnasol sy’n adlewyrchu’r ardal

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae’r ysgol wedi cymryd camau clir i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwreiddio profiadau dysgu yng nghyd-destun lleol y disgyblion. Drwy gynllunio bwriadus gan staff, mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol i ddysgu mwy am y gymuned maent yn byw ynddi. Yn dilyn taith o gwmpas yr ynys, mae’r disgyblion yn cynllunio, ysgrifennu ac anfon gohebiaeth at wleidyddion lleol yn mynegi pryder am gyfleusterau cyhoeddus ar Ynys Môn. Mae hyn wedi arwain at ymweliad gan yr aelod seneddol lleol i’r ysgol, ymweliad disgyblion i siambr y cyngor lleol ac i Senedd San Steffan.Trwy hyn, mae’r dull hwn o ddysgu yn rhoi ystyr bwriadus i ddysgu’r disgyblion, gan feithrin eu cysylltiad â’r gymuned a chodi ymwybyddiaeth o’u lle o fewn y gymdeithas ehangach. Trwy’r cyfleoedd hyn, mae disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig a chwilfrydig i’w dysgu, gan ddatblygu eu medrau’n gadarn, yn enwedig eu medrau llafar, rhifedd, a phersonol a chymdeithasol. Mae’r ddarpariaeth hon yn gosod sylfaen gadarn sy’n cefnogi disgyblion i fwynhau eu dysgu a gwneud cynnydd.

Details

Address

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU